Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

 

1 Mehefin 2015

 

CLA534 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gymryd rhan mewn cymedroli grŵp clwstwr ar ddiwedd yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol.  Mae dyletswydd ar benaethiaid i gymryd rhan mewn cyfarfodydd cymedroli grŵp clwstwr er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cymedroli athrawon yn gywir ac yn gyson ar ôl i athrawon asesu gwaith ysgol disgyblion ar ddiwedd yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol.